1. Defnyddio Safle’r wefan
Cynhelir www.cskills.org (y cyfeirir ato fel ‘y Safle’ o hyn ymlaen) i chi’n bersonol ei ddefnyddio a’i weld. Mae eich mynediad at y Safle hwn a’ch defnydd ohono’n golygu’ch bod wedi derbyn y Telerau ac Amodau hyn sy’n dod i rym o’r dyddiad rydych chi’n defnyddio’r Safle hwn.
Cawn adolygu’r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd. Edrychwch ar y rhain bob tro i chi ddefnyddio’r Safle. Bydd defnydd parhaus o’r safle’n golygu’ch bod yn cytuno i unrhyw newidiadau.
Rydym yn eich caniatáu i ddefnyddio’r Safle hwn yn gyfnewid am i chi gytuno i beidio ag addasu, newid na chreu unrhyw waith sy’n deillio o ddeunydd sydd ar y Safle hwn.
Nid oes hawl gennych (ac ni fyddwch yn cynorthwyo eraill) i sefydlu dolenni o’ch gwefannau eich hunain i’r Safle hwn (nid trwy ddolennu hyperdestun, dolennu dwfn, fframio, tagio nac fel arall) heb ganiatâd ysgrifenedig SgiliauAdeiladu, y cawn ei roi neu ei wrthod yn unol â’n doethineb diamod, a heb roi rheswm.
2. Eiddo deallusol
Diogelir cynnwys y Safle hwn gan hawlfraint, hawliau nodau masnach, hawliau cronfa ddata, breinhawliau, hawliau dylunio ac unrhyw destun arall, graffeg, sain, fideo neu ddelweddau, cynnwys, meddalwedd, data a gwybodaeth. Cewch argraffu, copïo, lawrlwytho neu gadw echdyniadau o’r Safle hwn dros dro er eich gwybodaeth bersonol eich hunain.
Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n adnabod SgiliauAdeiladu yn nodau masnach cofrestredig. Ni chaniateir copïo na defnyddio logo, enw na delweddau CITB-SgiliauAdeiladu mewn unrhyw fodd heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol oddi wrth SgiliauAdeiladu. Gallwch ofyn am ganiatâd i ddefnyddio logo SgiliauAdeiladu trwy ein ffurflen ofyn am ddefnyddio ein logo/dolen ar-lein neu gallwch gyfeirio ymholiadau at:
Communications & Marketing
ConstructionSkills
Bircham Newton
King’s Lynn
Norfolk
PE31 6RH
Defnyddir yr holl nodau masnach, enwau brand, enwau cynhyrchion a theitlau a hawlfreiniau eraill a ddefnyddir ar y Safle hwn dan drwydded a roddwyd gan eu deiliaid priodol. Ni roddir caniatâd gan SgiliauAdeiladu o ran eu defnyddio ac fel y cyfryw gall defnyddio olygu amhariad ar hawliau’r deiliad.
3. Defnyddio’r Safle
Defnyddiwch y Safle hwn ar eich menter eich hunain. Ni fydd SgiliauAdeiladu yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o gwbl na sut bynnag mae’n deillio o ganlyniad i chi’n defnyddio’r wybodaeth sydd ar y Safle hwn, neu’n dibynnu arni, i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.
Ymhellach, ni fydd SgiliauAdeiladu yn atebol am:
a) Cywirdeb na dibynadwyedd y wybodaeth na chynnwys y Safle hwn;
b) Problemau gan gynnwys cydweddoldeb a difrod neu lygredd o’ch caledwedd, eich meddalwedd neu’ch arsefydliad;
c) Diogelwch y Safle
d) Ymyrraeth ar argaeledd a gwallau’r Safle;
e) Cynnwys y Safle’n methu â bodloni’ch gofynion; neu
f) Cywirdeb, ymarferoldeb neu berfformiad meddalwedd unrhyw drydydd parti y gellir ei defnyddio ar y cyd â’r Safle.
4. Cystadlaethau a Loterïau
O bryd i’w gilydd gall SgiliauAdeiladu gynnal cystadlaethau, loterïau am ddim a hyrwyddiadau ar y Safle hwn. Bydd y rhain yn amodol i delerau ac amodau ar wahân y trefnir eu bod ar gael ar adeg y cystadlaethau hyn.
5. Siop SgiliauAdeiladu
Mae hyn yn amodol ar delerau ac amodau ychwanegol sydd ar gael o Cyhoeddiadau SgiliauAdeiladu.
6. Feirysau
Er bod SgiliauAdeiladu yn gwneud pob ymdrech resymol i eithrio feirysau o’r Safle, ni all sicrhau hyn ac nid yw’n derbyn atebolrwydd am unrhyw golled, aflonyddwch na difrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o’r Safle hwn. Felly, fe’ch cymeradwyir i gymryd pob dull diogelu priodol cyn lawrlwytho gwybodaeth o’r Safle.
7. Gwefannau Trydydd Parti
Caiff y Safle hwn gynnig dolenni i wefannau neu wasanaethau eraill a ddarperir gan drydydd parti. Os cewch fynediad at y gwefannau hyn trwy’r dolenni, rydych yn gadael y Safle ac ni fydd SgiliauAdeiladu yn gyfrifol am gynnwys neu gyfathrach y byddwch efallai’n eu cael gyda’r trydydd partïon hyn.
8. Polisi Preifatrwydd
Wrth ddefnyddio’r Safle, efallai y bydd SgiliauAdeiladu’n gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol. Am wybodaeth a sut rydyn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd.
9. Cyfraith Lywodraethu ac Awdurdodaeth
Llywodraethir a gweithredir y Telerau ac Amodau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd awdurdodaeth allgynhwysol gan Lysoedd Lloegr o ran unrhyw anghydfod a allai godi.
10. Cwestiynau a Chwynion
Rydyn ni’n ymroddedig i gynnig gwasanaeth hygyrch ac ymatebol o ansawdd uchel i bob defnyddiwr. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu gwynion ynglŷn â’r Safle, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig neu drwy e-bost (manylion cyswllt isod):
Canolfan Wybodaeth
Information Centre
ConstructionSkills
Bircham Newton
King’s Lynn
Norfolk
PE31 6RH
E-bost:
information.centre@cskills.org